Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gogledd a'r oror ddwyreiniol gan Gaswallon. Gwahaniaeth mawr rhwng y ddwy ranbarth oedd fod rhanbarth Caswallon yn cynnwys poblogaeth gymysg o ddisgynyddion mwnwyr Mynydd Dyryslwyn, morwyr Am-loch, y Coriaid, a hen ymsefydlwyr gyda gwaed Rhufeinig yn eu gwythiennau. Gellir casglu nad oedd fawr o gydymdeimlad rhwng Goidelod rhan o'r ynys a'r boblogaeth ddisgrifiwyd. Dechreuodd Caswallon berffeithio ei gynlluniau drwy garcharu ei frawd Caradog, a thybir iddo ei lofruddio hefyd. Meddiannwyd felly yr holl ynys gan Gaswallon, ac yn ddilynol cyhoeddodd ei annibyniaeth, neu yn hytrach dygodd yr Ynys dan awdurdod y Brythoniaid oedd eisoes â'u pencadlys yn Neganwy, ger bwlch Llanrhos. Cynhyrfodd hyn y Goidelod ymhob man o Arfon a'r Eryri, ac ymhell i goedwigoedd Meirion hyd Aran Fawddwy, oblegid yr oedd amryw fannau mynyddig heb eu goresgyn eto, er fod y Brython wedi meddiannu y gwastadeddau a'r tiroedd breision; ac wrth wneyd hynny yr oeddynt wedi treiddio drwy randiroedd, yr hyn a wahanodd lawer o barthau Goidelig oddiwrth eu prif gadarnle yn Eryri.