Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

III. Y WRACH DDU

TUA'R adeg yr oedd Ceris yn ymbaratoi ar gyfer gwrthwynebu y gadgyrch Frythonig ddisgwyliedig o gyfeiriad Deganwy heibio Gaer Rhun a thrwy Fwlch y Ddeufaen, daeth i Lwyn Ceris fenyw nodedig a thra afreolaidd yn ei hymweliadau, a'r hon a barai gryn gynnwrf ym mhob man lle deuai, nid oblegid un math o aflonyddwch a achosai, ond oherwydd dieithrwch ei symudiadau. Ni wyddai neb fawr o'i hanes, er fod ei chartref ymhob ardal yn achlysurol, oblegid dywedid ei bod yn ymweled a llawer o wledydd Goidelig a Gwyddelig. Sibrydid y gallai gyflawni llawer o bethau rhyfedd heblaw y rhodreswaith a briodolir gennym ni yn awr i'r crwydriaid a elwir y Sipsiwn. Dywedid hefyd ei bod mewn cymundeb â'r un drwg; feallai nad honnai hynny, oblegid tueddai yr ychydig ddywedai mewn ymddiddan achlysurol, a'r ychydig ymarferion o'i heiddo, i awgrymu mai rhyw fath o dderwyddiaeth,