Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neu addoliad hynafiaid, a geisiai ddilyn. Ymwelai â chromlechau, creigiau, a llwyni coed, ond ni chai neb un math o gyfleustra i ymuno â hi yn ei hymarferion crefyddol tybiedig, oblegid osgoai bob cyfeiriad at ddyledswydd grefyddol. Yr oedd felly lawer o goelion a thybiau yn ei chylch — megis y gallai fod yn anweledig pan y mynnai, ac y gallai symud i ardaloedd pell mewn amser mor fyr ag a ddisgrifid gan yr hygoelus gydag enghreifftiau mwyaf rhyfeddol. Proffesai ei bod yn ymweled â'r Dwyrain ac â gorllewin Ewrob: ac yr oedd ei hymddangosiad personol mor ddieithr fel yr oedd y bobl gyffredin yn credu ei bod o deulu tywysogaidd rhyw wlad bell. Yr oedd ei phrydwedd yn dywyll, ei llygaid yn dduon a gloew fel ffrwyth y berthen, ac yn fflachio hyd yn oed yn y tywyllwch pan gynhyrfid hi, ac yr oedd ei gwallt gloew—ddu hirllaes a phrydferth yn deilwng o frenhines ddwyreiniol. Er hyn i gyd nid oedd barddoniaeth y werin yn ei dyrchafu yn uwch na'i galw yn Wrach Ddu.

Oherwydd rhesymau na chyffyrddir â hwy yn bresennol nid oedd neb yn gallu dylanwadu dim arni mewn un modd ond