Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

merch brydferth a chrefyddol Ceris y Pwll. Swynai Bera, y Wrach Ddu, bawb a'i cyfarfyddai ag ofn syfrdanol, tra y toddai dylanwad Dona ach Ceris yr holl hud dewiniol a amgylchai Bera nes ymddangos o honni yn ei phresenoldeb fel dynes gyffredin, neu fel mamaeth plentyn anwylgu ar yr hon y rhoddasai holl serch ei henaid. Wedi i Bera ymddangos yn Llwyn neu Bwll Ceris bu y cynnwrf arferol ymhlith y gwasanaethyddion, ac yr oedd amryw wahanol dybiau ynghylch natur ei hymweliad. Aeth hi yn gyntaf i ymgrymu yn y dull mwyaf dwyreiniol o flaen cromlech fawr ddwbl oedd yn agos, ac yna daeth i gyfeiriad y Llwyn. Erbyn hyn yr oedd ei hymweliad yn hysbys i Geris, yr hwn a frysiodd yn bryderus i ofyn i Bera yr achos o'i hymweliad; oblegid ers peth amser nid arferai hi ymweled a neb heb fod ganddi neges neilltuol.

"Wel, Bera," ebai Ceris, "beth a'th gynhyrfodd i ddod i'r Llwyn yr amser yma? A wyt ti'n dwyn newyddion da, ynte drwg dy ddarogan?"

"Daeth drwg o'r gogledd," oedd yr ateb, "enciliodd y da tua'r môr."