Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IV. YR ESGOB MOELMUD

CYN i Geris allu ateb Bera ymddangosodd yr Esgob. Cydnabu bresenoldeb y Wrach Ddu, a throes at Geris fel un yn disgwyl am wybod y rheswm paham y cyrchwyd ef i wyddfod derwyddes mor nodedig yn ei gwrthwynebiad i gymdeithas crefyddwr. Cyfarchwyd ef gan Geris, yr hwn a frysiodd, fel ei arfer, at ei bwnc heb ymdroi.

"Anfonais atat, Moelmud," meddai, i ofyn i ti ddeongli daroganau Bera yma, rhag ofn fod ganddi neges bwysig i'w thraethu a minnau yn analluog i'w deongli. Mae wedi cyfeirio, 'rwy'n meddwl, at fradwriaeth Caswallon: ac, os wy'n deall, mae'n darogan na ddaw Bran yn ôl i Fon. Ni fuaswn yn anfon atat oni bai fod yr hyn mae hi yn ddweyd yn cyffwrdd â'r amheuon gyffyrddaist ti â hwy y dydd o'r blaen."

"Bera," ebai'r Esgob, gyda'r difrifoldeb arferol a nodweddai ei lais a'i edrychiad, "gwna iawn, ac addaw benyd am dy esgeulusdra gyda moddion