Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wen dros y byd (fel yr oedd gynt, cyn i ymryson a ffug losgi'r llwyni sanctaidd).

Ni chymerwyd sylw o ebychiad y Wrach Ddu, oblegid caled oedd yr ymadrodd i deimladau yr Esgob a Cheris. Troes Ceris at Bera, ac mewn dull tra chwyrn gorchymynnodd iddi fyned i'r gegin, a chymeryd gofal rhag tramgwyddo Dona.