Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond yr oedd ei hannibyniaeth a'i rheswm goleuedig yn creu ynddi beth anfodlonrwydd yngwyneb y ffaith fod yr addoliad Goidelig mor oer a ffurfiol yn fynych. Yr oedd sibrydion wedi cynhyrfu llawer arni pan y disgrifid wrthi y bywiogrwydd crefyddol a'r sêl ddi-baid a nodweddai fangorau y Brythoniaid, yn enwedig Bangor Isgoed. Hiraethai am ymweled â rhyw fangor, er nad oedd yn ei meddwl awydd i ymadael o'i Chil grefyddol ei hun. Ond nid hynny oedd prif achos y cynnwrf meddyliol oedd wedi ei meddiannu. Ers amser maith yr oedd meudwyaid Brythonig wedi ymwthio i amryw gilfachau yn y mynyddoedd, ac yn ddiarwybod iddynt eu hunain ac eraill, yr oeddynt wedi peri llawer o gydymdeimlad rhwng y cynfrodorion Goidelig a'r goresgynwyr heddychol, y rhai, gan arferyd eu dysg a'u medrusrwydd, a sefydlasant ddosbeirth lle y dysgid Goidelod ieuainc mewn gwahanol ganghennau dysg a chelf. Y meudwyaid oedd athrawon cyntaf, neu flaenfyddin, yr adfywiad Brythonig cyntaf.

Yr oedd Maelog ab Emyr Llydaw wedi priodi Goideles o Fon, ac wedi ymsefydlu ar etifeddiaeth ei wraig. Iestyn ap