Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Maelog a ddaeth i gydnabyddiaeth â Dona oherwydd ei chyfathrach a mam Iestyn. O'r gyfathrach a'r gydnabyddiaeth tarddodd cydymdeimlad cryf rhwng Dona ac Iestyn.

Wedi agor peth ar y ffordd a arweiniodd i gysylltiad agosach dygir i sylw pellach y Wrach Ddu oedd yn disgwyl cael myned i bresenoldeb Dona. Pan gymerwyd Bera i ystafell Dona, brysiodd ymlaen heb seremoni yn y byd, a chofleidiodd Dona gan ddefnyddio y geiriau mwyaf serchoglawn i ddisgrffio ei theimlad,-

"Mo choluman gheal " (Fy ngholomen wen), meddai; " A' Bhean mo ghaoil ar Móna tir: (Y Fun deg o Fon dir); AIo chridhc, m'anam; (Fy nghalon a fy enaid)."

"Taw, taw, Bera," meddai Dona: eistedd i lawr, a dywed dy hanes heb gyfeirio ataf fel pe bawn faban. Lle buost ti mor hir? Yr oeddym wedi dy golli; lle buost ti?" "Bum yn chwilio, ond heb gael. Mae'r llwyni yn darfod yn llwyr, a'r cromlechau yn esgeulusedig: y crugiau coffa heb enwau arnynt; a'r meini hirion yn syrthio i'r llawr."