Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Bera, Bera, 'rwy'n synnu wrth dy glywed yn udo fel ci wrth weld y lleuad. Pa bryd y meithrini reswm, ac yr ymddygi fel gwraig ddoeth? Anghofia'r pethau gynt, a chroesawa heddyw. Paham yr hiraethi am yr amhosibl, ac y gweiddi ar ôl yr hyn ni ddychwel?"

"Mae dydd y gofwy yn nesáu," oedd ateb ffyrnig Bera, " mae'r Cristionogion gledd ynghledd, Goidel a Brython yn difa cu gilydd fel dwy ddraig. Fe ddychwel' y Derwydd o'r gorllewin, a'r llwyni a dyfant eto."

"Nid oes sail i dy obaith, O Bera; daw'r derwydd yn ôl pan gyfyd yr haul yn y gorllewin, ac y machluda yn y dwyrain. Os oes anghydfod rhwng Goidel a Brython yn awr, daw unwr i wneyd un mawr o'r ddau."

"Mae Mon yn rhanedig," atobodd Bera, " o ble daw undeb?"

"Daw undeb gyda newydd-deb; un ddeddf a ladd, ac un arall sy'n bywhau. Mae'r hen yn marw i roi bywyd yn y newydd. Bu mynachaeth Goidelig yn angau i dderwyddiaeth; ond fe gynydda Cristionogaeth bur fwyfwy yn y goddefiad sydd yn bywhau."