Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddilyn Caswallon y cadwai ei ben, ac yn ol pob tebyg ychwanegu at ei ddylanwad ei hun ar draul rhai penaethiaid a geisiasant wrthsefyll Caswallon yn ardaloedd Medd a mannau eraill yng nghylchoedd Am-loch. Clywodd Moelmud sibrydion am ysgarmesau gwaedlyd yn Rhyd y Galanas, Bryn y Cyrch, Cerrig y Llefain, a mannau eraill. Aeth yr Esgob Moelmud i Glorach ac mor agos ag y gallai i Dre'r Beirdd ynghyfeiriad Maen Addwyn. Yr oedd llethrau'r mynydd yn y cyfeiriad hwnnw yn orchuddiedig gan wersylloedd pleidwyr Caswallon, y rhai, meddid, oeddynt ar ymosod ar Benmon Llugwy. Yr oedd tramoriaid y Dafarn Eithaf hefyd, â'u bryd ar ymbaratoi i ymsymud yn y cyfeiriad o'r hwn y gellid bwgwth hyd yn oed Llwyn a Phwll Ceris.

Cafodd Moelmud lawer o wybodaeth, ond ychydig gysur. Yr oedd congl orllewinol Mon yn Goidelaidd i'r carn, ac nid oedd amheuaeth ynghylch pleidgarwch Goidelod glannau y Fenai i'r rhai yr oedd Arfon ac Eryri yn gadarnleoedd anorchfygadwy. Ond sut yr oedd modd cylymu y llwythau hynny ynghyd i geisio codi mur yn erbyn y rhyferthwy Brythonig