Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a fygythiai Fon i gyd? Y cwestiwn yna oedd yn llenwi meddwl Esgob Llwyn Onn ar hyd ffordd ei ddychweliad i fin y Fenai. Beth fyddai canlyniad ymgyrch Caswallon? A oedd poblogaeth gymysg gogledd Mon am drechu y Goidelod a'u gwneyd yn werin i'r Brythoniaid gorchfygol? Pa effaith gai y goresgyniad Brythonaidd posibl ar grefydd Goidelod Mon? Yr oedd atebion wedi eu rhoi eisoes i rai cwestiynau yn y mân oresgyniadau oedd yn prysur Frythoneiddio holl wlad gogledd Mon, ac, wele, y don yn codi o gyfeiriad annisgwyliadwy, ac yn bygwth parthau eraill dros y Fenai a dybid oedd yn noddfa ddiogel o'r tu ol i gaerfeydd mynyddig Arfon a'r Eryri, gyda Mor y Werydd yn cadw drws cefn agored.

Nid oedd Moelmud erioed wedi teithio ymhell o ororau Mon, oblegid yr oedd efe yn ymbleseru mwy gyda'i lyfrau a'i ddyledswyddau crefyddol, yn hytrach nag yng nghynllunio mesurau ymosodol neu amddiffynnol o natur y rhai angenrheidiol i sefyllfa bresennol y wlad. Er ei fod wedi cychwyn oddi cartref yn y bore i archwilio sefyllfa ac amgylchiadau oedd yn cynhyrfu rhan bwysig o'r Ynys, ac