Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi casglu peth gwybodaeth, eto yr oedd yn awr yn dychwelyd heb un gannwyll i oleuo fel cynhorthwy i Geris i gynllunio gwrthwynebiad i ymosodiad Caswallon ar ryddid Goidelod Mon. Yr oedd Ceris yn cerdded wrth ei ochr ers rhai munudau cyn iddo ddeffro o'i fyfyrdod i bresenoldeb ei gymydog.