Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VIII. CYNGOR YR ESGOB

GWR astud oedd Moelmud yr Esgob,—gwr araf ond sicr yn ei gasgliadau. Yr oedd arferion a swyddogaeth Ceris yn gofyn iddo fod yn gyflym yn ei feddwl a'i symudiadau. Fel y dynesai yr hwyr arddangosai Ceris beth anesmwythdra oherwydd distawrwydd Moelmud yn ei ddwfn fyfyrdod. Nid oedd pesychiad na thwrf traed Ceris yn effeithio dim i dynnu Moelmud oddiar lwybr ei fyfyrdod a ddechreuasai ei ddilyn wedi iddo unwaith gael gafael ar ben y llinyn oedd debyg i'w arwain at ei nod.

Fel y neshaodd at Lwyn ei gymydog dechreuodd ei wedd newid, a thaenodd gwên o foddhad dros ei wynepryd, ac yn fuan ymryddhaodd oddiwrth faich ei ysbryd, yr hyn a arwyddoceid gan yr uchenaid a ollyngodd, yr adeg y canfu ei gyfaill wrth ei ochr.

"A wyt ti yma, Ceris? Mae'n dda gennyf dy weled yma heb i mi orfod mynd