Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymhellach, oblegid mae'n bryd i mi fod yn fy nghell."

"Beth fu canlyniad dy ymchwil, Moelmud? Ai heddychol dy ddychweliad?"

"Na," ebai Moelmud, "mae y rhwyd wedi ei thaenu yn fforddiol iawn: ac nid ynfyd Caswallon, er fod ei yriad yn gyflym."

"Beth a weli di? A oes oleuni?"

"Ychydig, ychydig iawn. Os diwedda Caswallon fel y mae'n dechreu, bydd Mon yn cydnabod penarglwyddiaeth y Goidel-Frython yn dra buan. Er fod ychydig wedi ceisio gwrthsefyll Caswallon, ac wedi ymladd yn lew yn amddiffyn eu haelwydydd, yn enwedig rhwng Mynydd Dyryslwyn a'r môr, eto gellir dweyd fod yr ymostyngiad yn gyffredinol."

"Ond, aros di, Moelmud, mae yna ddarn go lew o Fon heb ei thrwytho gan ddieithriaid fu bob amser yn ffynhonnell anghysur i'r hen frodorion; ac heblaw hynny mae Arfon a'r Eryri yn gadarnle oesol i'r rhai ymladdant dros eu hannibyniaeth."

Atebodd Moelmud,—"Yr wyf fi, Ceris, wedi myfyrio llawer ar ein sefyllfa, cyn i Gaswallon fradychu yr ymddiried oedd gennym ynddo, a bob amser deuwn i'r