Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

un penderfyniad ag y daethum iddo brydnawn heddyw-sef y bydd raid i ni, yn hwyr neu hwyrach, ymostwng i'r Brython. Mae ymddygiad Caswallon wedi dwyn yr anocheladwy ugeiniau o flynyddoedd yn nes atom. Dyna hanner Mon bron yn Frythonaidd mewn undydd unnos. Yr unig beth o bwys a arafai olwynion cerbyd Caswallon fyddai goresgyniad Mon gan Wyddyl o'r Werddon dan arweiniad Bran: ond nid yw y gyfathrach rhwng Bran a'i fab ynghyfraith yn ymddangos i mi yn dueddol i arwain i ymgyngreiriad safadwy iawn. Tra bydd drws ein cymundeb â'r Werddon yn agored gallwn lawenhau, ond cyn gynted ag y gall Caswallon daflu ei esgid dros Gulfor Glasinwen bydd haul annibyniaeth Mon wedi machlud."

"Gallwn ni yn Mon wneyd rhywbeth," atebodd Ceris, " daw cochion yr Eryri trwy y bylchau fel gwenyn a byddant fraich i feib Mon."

"Taw son am fylchau, nid oes namyn un bwlch trwy'r hwn y mae'n bosibl i gynhorthwy i Fon fod yn effeithiol, a hynny ddim ond dros amser byr. Gorfydd i ti arfer dy ddoethineb, a defnyddio dy nerth i wylio symudiadau y Brython