Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fod yn orhyderus. Os ceisiwn gau un drws, mae perygl i ni anghofio drws arall. Nid doeth bob amser fydd tynnu un mur i lawr i gael cerrig i godi mur arall. Beth yw dy gyngor di dan yr amgylchiadau?"

"Ein nerth yn bresenol yw aros yn llonydd. ' Safwn ac edrychwn ar iachawdwriaeth yr Arglwydd,' oedd cyngor Moses gynt. Disgwyliwn fel rhai yn ofni mewn hyder yn y gallu uchaf. Mae'n ddyledswydd arnom ymbarotoi, ond y drws arall sy'n arwain i ddiogelwch amlaf. Byddwn barod i wneyd ein dyledswydd. Byddwn barod hefyd i wrando beth ddywed yr Arglwydd wrthym. Duw a'th fendithio, Duw a agoro ein deall, ac a'n bendithio â doethineb."