Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IX. ADDEWID IESTYN

MAE'N bryd dychwelyd at gymeriadau eraill, hanes y rhai, er nad mor bwysig ag hanes y personau a enwyd, sydd er hynny'n angenrheidiol i daflu goleuni i gyrrau pwysig, fydd ddyddorol hefyd i rai na allant ddilyn, neu gael cyfleustra i ddarllen llyfrau yr hen hanes, a deall achosion ac effeithiau y chwyldroad a ddechreuodd y cyfnewidiadau a greodd Fon newydd o ddefnyddiau cymysg.

Dygwyd eisoes ger bron y darllenydd yr arwres, yr hon er na ellir ei dyrchafu i sedd Buddug, eto yn ei chylch cymhariaethol fychan fu yn foddion i liniaru llawer ar ymrysonau crefyddol oedd yn dechreu cynhyrfu Mon yng ngwawrddydd Cristionogaeth mewn gwahanol ffurfiau eglwysig. Yr oedd Mynachaeth seml y tadau Goidelig wedi treiddio i orllewinbarth pellaf yr Ynys, ond, fel yr awgrymwyd, yr oedd blaenfyddin yr eglwys neu y fynachaeth Frythonig, mewn ffurf feudwyaidd, wedi dechreu lefeinio y toes,