Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac wedi llenwi rhai â chywreinrwydd ynghylch trefniadau ac arferion newyddion, fel y disgrifid defodau yr Eglwys Dywysogaethol Frythonig a'i harferion crefyddol. Un o'r pethau hynny oedd arfer y cylchoedd cerddorol mawreddog a ddilynid ym Mangor Isgoed: ond nid oedd hynny ond megis sibrwd pell o'i gymharu ag effaith dyfodiad y cenhadon Brythonig, gan y rhai y dygwyd crefyddwyr Goidelig Mon wyneb yn wyneb ag adfywiad crefyddol a barodd gyfnewidiad mawr yng Nghymru.

Fel y crybwyllwyd, yr oedd y dreftadaeth a etifeddodd Dona ar ôl ei mam yn terfynu ar etifeddiaeth y llanc Iestyn a enwyd o'r blaen, a naturiol oedd iddo ef a Dona ddyfod i gydnabyddiaeth agos, yn enwedig oherwydd i Geris fel gwyliwr y goror, a'r dyledswyddau ynglŷn â hynny, fod dan orfodaeth i osod etifeddiaeth Dona dan ofal ac arolygiaeth Iestyn.

Er nad oedd y ddau ieuanc wedi bod yn ddigon agos i'w gilydd i wybod ond ychydig ynghylch y gwahaniaeth oedd rhwng eu harferion crefyddol, eto, fel y mae haearn yn hogi haearn, yr oedd y naill trwy reddf cydymdeimlad yn gallu