Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amddiffyn y llall, pa bryd bynnag y deuai y trydydd i feirniadu ac ymosod.

Hefyd yr oedd eu tueddiadau yn gydnaws, ac oherwydd hynny edrychai y naill fel y llall at ddydd eu cyfarfyddiad gyda disgwyliad hyfryd; ond beth bynnag oedd yn achosi y dyddordeb cynyddol rhyngddynt nid oedd un o'r ddau yn awyddus i ymarfer cymaint o gywreinrwydd fel ag i ewyllysio agor y blwch oedd a'i gynhwysiad mor beraroglaidd iddynt. O du Iestyn nid oedd ei sefyllfa ef yn gyfryw fel y gallai obeithio na disgwyl i foneddiges o radd Dona ymostwng i fod yn ddim amgen nag yn etifeddes oedd yn rhwym yn unig i gydnabod Iestyn fel goruchwyliwr ei hetifeddiaeth. Yr oedd yn ffyddlon yn ei swydd ac yn cydnabod ei ymrwymiad.

Yr oedd achos eu cyfarfyddiad presennol yn wahanol iawn i bob achos arall, oblegid yr oedd y wlad yn gynhyrfus, a sibrydion fel fflamau tân yn llyfu sofl a chrinllyd wellt. Yr oedd peryglon bygythiol fel mellt yn rhuthro drwy'r ffurfafen oedd megis ar ymollwng yn nhwrf y taranau a gynhyrfai yr Ynys.

Mae'n wir nad oedd neb o deulu y Llwyn yn llewygu gan ofn. Yr oedd yr