Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Esgob a Cheris wedi trefnu tŷ eu cymdeithas oreu y gallent, ac yn barod i wynebu yr amgylchiadau. Yr oedd Dona yn ymollwng yn dawel ar allu a doethineb ei thad a'i chynghorwr ysbrydol: ac o'r tu ôl i'r cwbl yr oedd presenoldeb ei chyfaill ieuanc yn rhoi hyder anesboniadwy yn ei chalon, oblegid yr oedd rhywbeth cryfach na ffydd yn nylanwad y Goidel-Frython gyda phobl gymysg gogledd Mon, yn peri iddi, yn gyffelybiaethol, ei gofleidio yn ei mynwes.

"Mae'n dda gen' i dy weled," oedd croesawiad cynnes Ceris; " mae rhywbeth yn sisial ynof y dylem fel cyfeillion, ar adeg fel y presennol, nerthu ein gilydd trwy wneyd pob peth allom i gysuro ein gilydd. Nid wyf fi yn amheu gonestrwydd neb, er fod brad yn creu siomedigaeth, ym mynwes llawer un. Sut bynnag y bydd i bethau droi allan, yr wyf yn ymddiried ynot ti am ddiogelwch personol Dona fy merch, beth bynnag ddaw o'n heiddo, os bydd i Ragluniaeth weled yn dda fy nghymeryd oddiwrthi. Nid wyf yn gofyn i ti ei hamddiffyn—gwn y gwnei."