Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

X MEUDWY YNYS LANACH[1]

WEDI'R arddangosiad a ddisgrifiwyd uchod, trodd Ceris ab Iestyn a gofynnodd am wybodaeth ynghylch helyntion oedd yn cynhyrfu yr Ynys yn y pellder; " oblegid," meddai, " yr wyf wedi fy nghloi yma i wylied symudiadau Brythoniaid Deganwy a Llanrhos. Buaswn wedi morio i Aml-och a Phorth Llechog, os nad ymhellach, oni bai y perygl a nodais. Beth ddywed Maelog dy dad?"

Rhoes Iestyn eglurhad fel hyn,—"Mae fy nhad mor bryderus ag wyt tithau, oblegid mae'n ofni rhysedd Caswallon gartref, a rhuthr i Fon dros Gonwy gan Frythoniaid o'r dwyrain. Yr ydym yn gobeithio yr ymdawela pethau, ac y bydd i Goidelod gorllewin Mon ddyfod i gyd-ddealltwriaeth â Chaswallon heb atafaelu etifeddiaeth neb, ond iddynt gydnabod arglwyddiaeth Caswallon, ac ychydig gyfnewidiadau ddeillia o hynny. Os derbynnir telerau Caswallon gan y Goidelod, ac os peidia Goidelod

  1. Ynys Lenach: Y mae'n wall orgraff yn y llyfr.—O. E.