Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Eryri ruthro o'r mynyddoedd ac ymosod ar Gaswallon oblegid ei frad, ac i ysbeilio, y mae gobaith y cawn heddwch; ond os digwydd yr hyn a ofnir gan lawer bydd yn ymladdfa waedlyd rhwng arfoddogion o bob tu. Dyna sylwedd darogan glywodd fy nhad yn nhueddau Mathafarn Eithaf, ar y ffordd i lwyni a llechau prif ganlynwyr Caswallon."

Ychydig hwyrach yn y dydd daeth yr Esgob Moelmud i Lwyn Ceris. Yr oedd y morwr yn arolygu darpariadau ar gyfer ymweliad a Phenmon. Aeth Moelmud i gyfeiriad y Pwll, lle yr oedd y lanfa yn agos: ac er mwyn cael ymddiddan yn gyfrmaehol gyda Cheris, aeth i'r llong gydag ef, ac ar fordaith i'r man nodwyd.

Wrth fyned heibio i Ynys Lanach (Ynys Seiriol) canfuant ddieithrddyn yng ngwisg meudwy ar lan yr ynys yn dwyn baich o friwydd i gyfeiriad agorfa yn y graig gerllaw, a ddisgrifid gan un o'r morwyr fel ogof fechan lle y gallai un wneyd llety a chysgod rhag ystorm. Nid oedd y morwr wedi bod yn ymddiddan a'r meudwy, ond clywsai ei fod yn fonheddwr wedi ymneillduo o bob cymdeithas gyhoeddus i ymroddi i fyfyrdod a gweddi, ac i gyfrannu gwybodaeth a chyfarwyddyd