Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i rai ymofynnent ag ef, yn enwedig y drylliedig o ysbryd, ac ymofynwyr am y gwirionedd.

"Moelmud," ebai Ceris, "beth yw dy feddwl di o'r meudwyaid hyn? Mae'n ymddangos i mi fod mynachaeth fel hyn yn wahanol iawn i'r hyn ddysgai Brychan a'i ddisgyblion. Yr oedd ef yn arwain a dysgu yr holl frawdoliaeth. Cyn ei amser ef yr oedd y Goidelod fel rhai yn palfalu ar bared, a phob un yn gwneyd yr hyn oedd dda yn ei olwg ei hun. Ond dysgodd Brychan y bobl i addoli,-i alw ar enw yr Arglwydd yn finteioedd neu gynulleidfaoedd. Wn i ddim i beth y mae crefydd feudwyol yn dda. Mi glywais rywun yn adrodd beth ddywedodd gwr da a wrthwynebai feudwyaeth am na allai meudwy gyfrannu bendith i neb oherwydd nad oedd ganddo neb i dderbyn bendith, tra'r ymneilltuai i anialwch anhrigianol."

Atebiad Moelmud oedd,—"Mae'n bosibl i feudwyaeth syrthio i gamgymeriad ac ymneilltuo yn hollol, heb gymdeithasu â neb o gwbl. Crefydd ddiffrwyth yw crefydd felly. Ond yr wyf fi yn deall mai pobl â neges grefyddol ganddynt yw y meudwyaid Brythonig hyn.