Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae'n wir eu bod yn ymneilltuo o'r byd, fel y dywedir, ond mae y gwir feudwy crefyddol â'i neges yn y byd o hyd, hynny yw, y mae yn myned o amgylch gan wneuthur daioni. Ac fel y darllenir yn y memrwn, yr oedd Ioan yn feudwy hyd y dydd yr ymddangosodd efe i'r Israel. Mae'r Brython yn ei le, ac mae'r Goidel yn ei le hefyd. Nid yw'r praidd sydd dan fy ngofal i yn gwybod fawr am fy nyledswyddau meudwyaidd i. Yr wyf yn ceisio eu dysgu a'u harwain yn eu defosiynau, a gwyn fyd pe gallwn eu dysgu a'u hegwyddori ymhob cangen o ddysg. Mae'r Brython yn gweled yr angenrheidrwydd, ac fel yr wyf yn deall, y mae'n trefnu moddion ar gyfer yr angen, gan barotoi gwyr fel gweinidogion i ddefosiwn ac addoliad; a gwyr astud i gyfrannu addysg i'r bobl."

"Yn ol dy syniad di, gan hynny," meddai Ceris, mae cynnydd mewn un cyfeiriad yn galw am gynnydd arall cyfatebol, fel y bo i'r holl gorff gynhyddu yn ei holl rannau yn o gymaint. Mae rhywbeth, yr wy'n gweld, yn y gair—'Awn rhagom' yn tybied nad ydyw heddyw i fod fel doe, nac yforu fel heddyw."