Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Dyna lawer mewn ychydig eiriau. Mae y bwyd i fod o'r un natur o hyd o ran diben, ond fod yna wahaniaeth yn ei ymddangosiad, a'r dull o'i barotoi. Mae yna adfywiad crefyddol yng ngwaith y Brythoniaid selog a gweithgar hyn yn gadael eu gwlad, gan aberthu cysuron teuluaidd a chymdeithasol i ddyfod yma fel cenhadon addysg i gyflawni gwaith sy'n cael ei adael heb ei wneuthur gennym ni oherwydd rhesymau neillduol. Mae rhyw reddf oruchel yn ein gyrru i ddringo i gyfeiriad perffeithrwydd crefyddol, yn gyffelyb i'r reddf is sy'n ein cynhyrfu i chwilio ac i geisio gwybodaeth a gwelliant. Gan hynny, os yw gwaith y cenhadon hyn yn gwella a dyrchafu y Brythoniaid fel cenedl, ninnau a ddylem eu hedmygu a dilyn eu hesiampl hwy trwy fabwysiadu eu cynlluniau, neu eu dynwared yn deilwng yn ein ymdrechion i ddyrchafu ein cenedl ninnau. Mae Caswallon wedi dechreu gwaith na welir terfyn arno yn fuan, os byth: a dylem ninnau ymbarotoi i gyfarfod yr anocheladwy. Mae meudwy Ynys Lanach, pwy bynnag ydyw, fel meudwyaid y Tir Sanctaidd gynt, yn sicr o hau had a ddwg ffrwyth yn fuan, oblegid y mae'r ymfudiaeth wyllt o wlad bell yr