Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Angliaid i ddietifeddu y Brythoniaid o'u tir yn y Gogledd yn rhwym o effeithio ar ein gwlad fechan ni; ac oni chanfyddi fel y mae uchelgais Caswallon yn debyg o'i wneyd yn ddynwaredwr yr estroniaid ac yn groesawydd i'r symudiadau gwladol newyddion, fel y gallo gael y newydd-ddyfodiaid yn gynorthwywyr iddo yn erbyn Goidelod yr Eryri, y rhai, creu holl ymdrechion, ni allant fod ond yn anghysur i ni rhwng Caswallon a hwythau? Ac i ddweyd yn eglur, gwell i ni ymheddychu â Chaswallon a cheisio y telerau ysgafnaf, na bod rhwng dau yn ymryson. Gan dy fod ar ryw neges yn y parth hwn, ac ar fin glanio, mi a gadwaf yr hyn fwriedais draethu hyd ein dychweliad i'r Llwyn."

"Ni fyddaf ymarhous," ebai Ceris, oblegid nid oes arnaf ond eisiau gwybod canlyniad neges Esgob Cil Mon yn Ninaethwy."