Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XI. SON AM RYFEL

YN nechreu y bennod o'r blaen gadawyd Dona gyda'i chyfaill Iestyn yn y Llwyn hyd oni ddychwelai Ceris o Gil Penmon. Er nad ydyw neges cariad i'w rhoi o'r neilldu fel ail beth, eto mae gofynion i'w hateb a allant ein gorfodi i aberthu anwyliaid, er mwyn anrhydedd uwch. Nid chwedl serch yn unig sydd gennym i'w hadrodd, ond hanes chwyldroad mawr ym Môn yn y cynfyd pell yn ôl. Hanes brwydrau a chreulonderau yw hanes ymfudiadau a chwyldroadau yr hen oesau, a rhai diweddar. Hawdd gennym godi dwylaw mewn dychryn wrth ddarllen hanes goresgyniad gwlad Canan gan yr Israeliaid, a goresgyniadau ar ol hynny yn dwyn cysylltiad â thir Israel; ac ar yr un pryd, ymhen tair mil o flynyddoedd ar ol hynny, yng nghyfnod y grefydd a'r gwareiddiad Cristionogol, yr ydym yn barod i ddawnsio a churo dwylaw wrth ddarllen hanes unplyg yn ein newyddiaduron o ddigwyddiadau cochion a duon,—trueni y gorchfygedig, a gogoniant tybiedig, ond siomedig