Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cochion Eryri a gwylliaid cochion Mawddwy, â Gwyddyl o'r Werddon, pan nad oes unrhyw rwystr ar ffordd credu mai gweddillion y Goidelod gorchfygedig oeddynt, wedi medru amddiffyn eu hannibyniaeth ym mynyddoedd a choedwigoedd Gwynedd?

Mae cwestiwn y berthynas rhwng Cymraeg Gwynedd a'r gwreiddiau Goidelig yn gymysgedig â geiriau Brythonig yr iaith yn hawddach i'w synied a'i ddeall os derbynnir y ddadl mai Goidelod brodorol, o'r un cyff Celtig a'r Gwyddyl, oedd preswylwyr Môn cyn i Gaswallon arwain yn y goresgyniad Brythonig. Nid yw ymffrost "gwyr mawr Môn " yn eu gwaed Brythonig, a distawrwydd y werin ym Môn ers canrifoedd ynghylch eu tarddiad cenedlaethol yn profi dim, ond ei bod yn ddigon naturiol i blant y gorchfygedig, yn enwedig ar ol iddynt golli eu hen iaith, anghofio ceudod y ffos o'r hon y cloddiwyd hwy, neu y graig o'r hon y naddwyd hwy, fel y profa ymddygiad plant ymsefydlwyr Cymreig yn Lloegr, a disgynyddion Prydeinwyr yn America. Yr un ddeddf oedd yn ffurfio cenedl newydd ym Môn yng nghanrifoedd cyntaf' Cristionogaeth ag sydd hefyd yn awr yn