Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XII. FFYDD AC OFN

PAN gafodd yr Esgob Moelmud y cyfleustra priodol, dechreuodd ei ymddidan neillduol gyda Cheris drwy ofyn iddo yn ddistaw, ac mewn dull gochelgar, pa bryd y gwelsai, neu y clywsai rywbeth, ynghylch Bera, y Wrach Ddu. Wedi bod yn hwyrfrydig i gredu yr hyn a glywsai, yr oedd rhyw hysbysrwydd a gawsai wedi ei argyhoeddi fod rhyw anesmwythdra mewn rhai parthau o gongl ddeheuol Môn, yn enwedig oddeutu y ffordd sydd yn arwain o Abermenai i Din Goidel gyferbyn a Dulyn yn y Werddon.

"Mae'r ddewines anesmwyth," ebai yr Esgob, "y Wrach Ddu o Endor, fel yr wyf yn deall, yn mynd o amgylch, o gromlech i grug, i aflonyddu ar y meirw, a thrwy ei swynion a'i hudoliaeth yn ceisio cynhyrfu galluoedd y tywyllwch i amddifadu Goidelod Môn o'u gallu i ddefnyddio eu rheswm, a chwilio Gair Duw, sydd megis mur o dân yn amgylchynu yr ynys, ac yn ogoniant yn ei chysegroedd; ac felly