Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn peryglu heddwch y wlad, a gosod brawd yn erbyn brawd i ymladd. A glywaist ti fod y coelcerth yn barod, ond fod y tân heb ei gynneu?"

"Y nefoedd fo'n gwarchodlu!" gwaeddai Ceris. " Beth ydyw cynnwrf fel hyn? Lle mae'r hwch ddu gwta? A welaist ti hi? Beth fedrwn ni wneyd? Nid ydwyf fi yn ofni ei chonsuriaeth; ond mae ei hudoliaeth yn gryf pan gyll pobl eu pennau a grwrando ei daroganau."

"Paid dithau, Ceris, ag ymollwng, rhag ofn i ti golli ymddiried yn y Gallu uchaf. Saf yn ddyn, a gosod dy wyneb fel pres yn erbyn derwyddiaeth sy'n llygad—dynnu. Mae'n rhaid i ni osod rhyw atalfa ar Bera, neu ei gyrru i'w gwlad ei hun."

"Ond, beth fedrwn ni wneyd os ydyw hi mewn gwirionedd yn gallu lledrithio, hudo, swyno, a bwrw derwyddiaeth fel sachlen ddu dros lygaid pobl. Paham, tybed, y mae hi yn cadw draw oddi yma, oblegid byddai'r hudoles (O! gwareder ni) yn galw yma ac yn cael croesaw, er y gwyddem ei bod yn rhyfygu'n annuwiol gyda'i hystumiau o flaen cromlech fy hynafiaid."