Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a Chesair,-y rhai a arddangosent arwyddion eu bod ar wyliadwriaeth barhaus. Er chwilio holl amgylchoedd y Llwyn a'r borthfa, nid oedd dim neilltuol i'w glywed na'i weled, eto yr oedd y cŵn a'u clustiau yn cyflym symud yn ol ac ymlaen, a'u llygaid fel yn fflachio tân; ond y rhyfeddod yn nhyb pawb o ddilynwyr Ceris oedd yr ansicrwydd parhaus a ddangosid gan y cŵn, fel pe yn methu penderfynu o ba gyfeiriad y deuai y sŵn tybiedig a'u cynhyrfai. Er galw arnynt nid oeddynt fel arfer yn barod i gychwyn ar ymchwil: ond amlygent arwyddion o anallu, yn awr ac eilwaith, drwy ollwng allan ryw swn cwynfanus, rhwng udo a chyfarth, oedd yn peri i rai osod eu dwylaw ar eu clustiau.

Nid oedd Ceris yn dangos ofn yn y dull cyffredin o arwain y gwasanaethyddion i'r tŷ, ond yn hytrach ceisiai guddio ei deimladau mewnol gyda chyfres o eirchion a gorchymynion oedd mor anhawdd ufuddhau iddynt a phe buasent mewn iaith ddieithr. Wedi dangos ychydig dymer fygythiol, gorchymynnodd Ceris i bawb ymneilltuo, a gadael llonydd i'r cŵn. Ar ol iddo yntau fyned i'r tŷ ynghwmni Dona, edrychai yn syn