Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac amhenderfynol Ni roddai atebion boddhaol i ofynion ei ferch, ond edrychai i gyfeiriad y drws. Yna symudodd at y drws ac agorodd y ddôr. Dilynwyd ef gan Dona, ac aeth y ddau, heb yngan gair, a cherddasant i gyfeiriad y ddinas oedd ar lan gyferbyniol y Fenai.