XIII. YMOSTWNG I GASWALLON
PAN ymgynullodd Gogleddwyr Môn, o dan arweiniad Caswallon, wrth Ffynnon Clorach, yr oedd yno liaws yn ei gyfarfod o bob rhan o'r ynys, yn disgwyl am ymddangosiad y blaenor llwyddiannus oedd eisoes wedi creu argraff ffafriol iawn mewn amryw fannau. Cyrhaeddodd llawer o benaethiaid llwythau yn hwyrach yn y dydd oherwydd pellter y ffordd i le y cyfarfyddiad. Yr oedd llawer o ymholi ynghylch rhagolygon Caswallon ym mharthau mwyaf Goidelig o'r ynys, megis y gogledd-orllewin, y gorllewin, a glannau y Fenai. Yr un ateb oedd gan bawb. Nid oedd yno neb yn barod i godi gwrthwynebiad i gynlluniau Caswallon, yr hwn ym mlaen llaw a wnaethai yn hysbys nad oedd efe am ymyrryd dim â neb, nag eiddo undyn, os cydnabyddid ef fel pen llywydd yr ynys.
Yr oedd pob manylion i'w trefnu a'u cadarnhau yn ffurfiol yn y gynhadledd ohiriedig nesaf. Ond cyn ymwahanu