Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

galwyd enwau yr holl benaethiaid ffafriol i heddwch a chytundeb, a- rhoddwyd saith niwrnod o seibiant cyn rhoi neb ar ei lw o -ffyddlondeb i Gaswallon, er mwyn i rai oedd absennol y pryd hwnnw ddyfod i'r gynhadledd ohiriedig i roi eu cydsyniad yn bersonol, neu anfon eu rhesymau mewn ysgrif ardystiedig. Arddangosid llawenydd cyffredinol drwy bob rhan o'r gwersyll mawr a amgylchai babell Caswallon. Un yn unig oedd yn gwisgo gorchudd tristwch dros ei wynepryd. Safai Moelmud, Esgob Cil Llwyn Onn, yn synfyfyriol, ond gan ei fod bob amser o ymddangosiad myfyrgar a thawel, nid oedd neb wedi sylwi ar ei ymddangosiad prudd, nac ar hyd yn oed absenoldeb gwr mor gyhoeddus a Cheris y Llwyn, arolygydd porthladd y Pwll. Fel yr oedd brwdfrydedd yn oeri, a'r amgylchiadau yn dyfod yn fwy dealladwy, daeth absenoldeb Ceris yn bwnc pwysig, a phryder a fantellodd dros yr holl wersyll; ac ofnid y buasai ymgyrch Frythonaidd dros y Fenai yn peri cynnwrf ym Môn, lle yr oedd, yn ôl pob ymddangosiad, y Goidelod yn ymostwng i dderbyn yr iau o law Caswallon.