Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd yr Esgob Moelmud yn fuan ynghanol llawer o'r penaethiaid oedd yn adnabyddus iddo, a llawer oedd yn ofni bradwriaeth ac ymgodiad Goidelig oherwydd ansicrwydd y sefyllfa, oblegid yr oedd rhai a wrthwynebasent Gaswallon yn y gogledd o'r ynys, yn deuluaidd gysylltiol â theuluoedd yn y gorllewin. Er pob ymofyn ac ymholiad ni allai neb roi y mymryn lleiaf o eglurhad. Yr oedd yr Esgob Moelmud yn sicrhau pawb nad oedd un sail i amheu gair a gonestrwydd Ceris, yr hwn, ychydig oriau cyn i'r Esgob glywed am ei ddiflaniad, a ymunasai ag ef yn y datganiad o benderfyniad i aros yn llonydd hyd onid aflonyddid arno fel gwyliwr goror ddwyreiniol yr ynys.

Dygai Iestyn, a'i dad Maelog, dystiolaethau i'r un perwyl, a chan nad amheuid ffyddlondeb Ceris i'w gyd-ynyswyr, a'i alwedigaeth gyhoeddus, ni allai neb roddi barn foddhaol ar y mater dyrus. Ni chaed un math o oleuni er i'r Esgob ac Iestyn ymweled â'r mannau tebycaf i gael hysbysrwydd ynghylch Ceris a Dona. Lle bynnag yr elent, yr oedd pawb am y cyntaf i ofyn hysbysrwydd, ond ni ellid boddloni neb gydag atebion neu ddyfaliadau.