Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Un peth yn unig a dybid ei fod yn gywir, sef fod Ceris a Dona yn cael eu symud gan un bwriad, ond yr oedd tywyllwch caddugol yn cuddio y bwriad hwnnw oddiwrth ddirnadaeth y doethaf a'r mwyaf craff o'r dyfalwyr.

Penderfynodd yr Esgob (wedi iddo ymgynghori ag Iestyn), fyned i Gil Dwynwen, gyda dim ond ychydig iawn o obaith y cai un math o eglurhad ar ddigwyddiad mor ddyrus: oblegid er y gallasai Dona ymweled â Chil mor enwog, eto yr oedd ymddygiad dieithr Ceris yn anesboniadwy, gan y gwyddai'r Esgob na fuasai ei gyfaill yn symud o gartref ar adeg mor gynhyrfus heb y rheswm cryfaf dros wneud hynny, heblaw gwneyd felly heb ymgynghori ag ef. Troes Moelmud yn gyntaf i ymweled âg Esgob Cil Ceinwen, ond nid oedd neb yn y parth hwnnw wedi clywed dim ynghylch yr helynt, heblaw yr hyn oedd wybyddus eisoes. Wedi iddo gyrraedd Cil Dwynwen ar fin y môr, clywodd yno fod peth anesmwythdra yn y llechweddau mynyddig uwch Dinlle: oblegid ofnid fod Goidelod yr Eryri yn ymbaratoi ymosod ar Gaswallon: ond ni wyddai gwyr Dinlle, Dinas y Prif, na Dinorthwy, ond ychydig iawn o sicrwydd ynghylch y