Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sibrydion. Yr oedd un hysbysrwydd a barodd beth anesmwythdra i Moelmud. Clywodd fod Bera y widdan yn brysur iawn yn ei hymweliadau o fan i fan yn yr holl ardaloedd hyd Ddinas y Ceiri; ac ymhellach na hynny hefyd, hyd derfynau gwledydd Brythoniaid Dunodig ac Ardudwy. Aeth yr Esgob ymlaen i gyfeiriad Caer Helen. Yn ymyl y ddinas honno cyfarfu â gwladwr, ac o'i flaen yr oedd gyrr o wartheg duon, y rhai, meddai y gyrrwr, a brynasai yn y bwlch, ychydig yn uwch i fyny na Chastell Cidwm. Yr oedd gwyliadwriaeth fanwl wedi ei rhoi ar y porthmon yn y bwlch, yr hyn a barodd iddo ryfeddu llawer: oblegid ni chyfarfuasai y cyffelyb o'r blaen. Yr oedd gwladwyr Troed y Wyddfa yn dawedog ac yn anewyllysgar i ymuno mewn un math o ymddiddan yn cyfeirio at y cyfnewidiad yn sefyllfa pethau yn y Bwlch. Un peth a glywsai cyn cyrraedd yr hen gaerfa Rufeinig Segontium, oedd fod llawer yn disgwyl i symudiad pwysig gymeryd lle yn fuan.

Croesodd yr Esgob i Fôn yn un o ysgraffau Aber Menai, gan lanio yn agos i'r Foel. Dychwelodd i Lwyn Onn heb ymaros, oblegid yr oedd yn hwyrhau pan