Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

Y mae'n hawdd rhannu nofelau'r byd yn ddau ddosbarth, — nofelau hanesyddol a nofelau ereill.

Y mae nofelau hanesyddol yn darlunio pethau ddigwyddodd cyn cof i'r awdwr; y mae nofelau ereill yn darlunio y pethau welodd yr awdwr ei hun.

Y nofelau ereill hyn yw y rhai mwyaf lliosog o lawer. Gall eu hadwr eu hysgrifennu heb efrydu ac heb ymdrech. Weithiau ceir hwy yn ddarluniadau byw o gymeriadau sydd wedi llenwi meddwl yr awdwr, megis yn Rhys Lewis Daniel Owen a Sioned Winnie Parry. Dro arall ceir hwy yn ddadleniadau o orthrwm neu gam; ac wedi i wlad eu darllen y mae'n barod i groesawu un a laddo'r gorthrwm ac a uniono'r cam. Little Dorrit Dickens roddodd ddiwedd i greulondeb cyfraith methdaliad; helpodd Pickwick Papers ddeddfau estyn yr etholfraint; galwodd Nicholas Nickeleby am ymyriad y Llywodraeth ag ysgolion: Oliver Twist oedd un o brif achosion gwella deddfau'r tlodion. A pha faint yw dyled y fam anffodus i Heart of Midlothian Syr Walter Scott, a dyled y caethwas i Gaban F'Ewythr Twm Harriett Beecher Stowe?

Ond er fod y nofelau hyn yn rhan o hanes, nid nofelau hanesyddol mohonynt. Ychydig iawn o nofelau hanesyddol sydd yn llenyddiaeth Cymru eto. Mae Cymru yn hoff o hanes, yn