Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CYNHADLEDD FFYNNON CLORACH

PAN wawriodd y dydd apwyntiedig i Gaswallon i gyfarfod ei ddeiliaid wrth Ffynnon Clorach, daeth ynghyd holl benaethiaid yr Ynys i glywed y 'penderfyniadau y cytunwyd arnynt gan Gaswallon a'i gynghorwyr i ddwyn yr holl ddeiliaid dan iau y Tywysog newydd, yr hwn a addawai lywodraethu Mon ar yr un cynllun ag y llywodraethid tywysogaethau ereill yn y Cyngrair Brythonig.

Gan fod yr etifeddiaethau Goidelig o'r blaen yn mwynhau mwy o ryddid hunanlywodraeth nag a addawid iddynt yn y cynllun newydd, bu hynny yn achos peth dadleu rhwng plaid y gorllewin a phlaid gymysg y gogledd a'r dwyrain; ond gan y gwelai y blaid flaenaf fod y Tywysog yn ffafrio y blaid arall, penderfynwyd yng ngwyneb yr anocheladwy, derbyn telerau Caswallon a thyngu llw o ffyddlondeb iddo.

Mewn perthynas i'r cwestiwn crefyddol oedd yn llawer llai dyrus y pryd hwnnw nag ydyw yn awr, penderfynwyd gadael