Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dilynol i'r goresgyniad Brythonig cyffredinol yng Nghymru, wedi bod mor drwyadl nes yr anghofiwyd y Goidel a'r Brython yn y Cymro a'r Gymraeg. Saeson yw brodorion 'presennol Lloegr er fod mwy o'r Brython yn y defnydd nag o'r Sais yn gyntefig. Yn yr un modd y mae plant Cymry ynghwahanol barthau o Brydain a gwledydd eraill, yn wirfoddol neu fel arall, wedi iddynt anghofio eu tarddiad Cymreig, yn gosod eu hunain allan fel Saeson. Felly yn gyffelybol, aeth Goidelod Mon yn Gymry. Ac os na chamgymerir yn fawr, aeth Goidelod Cochion Mawddwy, a'u disgynyddion yn Gymry o'r Cymry. Onid cyffelyb dynged hefyd a syrthiodd i ran coedwigwyr cochion yr Eryri o'r un cyff Goidelig wedi eu gorchfygiad gan daid Syr John Wynn o Wydir?