Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XVI. HYNT YR ESGOB

MAE'N bryd bellach edrych i hanes Bera a'i symudiadau, gan mai hi oedd prif gynllunydd y goresgyniad neu ymgyrch Goidelod Eryri i Fon. Cafodd yr Esgob Moelmud o'r diwedd gipolwg ar y Widdan, neu ychydig o'i hanes pan oedd ei fryd a'i ddyledswydd wedi ei rwymo i ofalu am waith arall. Fel yr oedd yr Esgob yn ceisio lliniaru doluriau clwyfedigion ar faes y rhyfel ar ôl brwydr Din Dryfael daeth i gyffyrddiad â Goidel clwyfedig, yr hwn oedd fwy deallus na'r cyffredin o breswylwyr gwylltion un o'r ardaloedd mwyaf anhygyrch yn Nolwyddelan. Anfuddiol fyddai manylu ar hanes y bugail o lechwedd Moel Siabod ymhellach na'i ddefnyddio fel cynhorthwy i bwrpas mwy pwysig. Ymddengys iddo fel amryw eraill, gael ei gamarwain yn hollol ynglŷn â'r hyn gymerasai le ym Mon. Tybiai gwyr Eryri ei bod yn ddyledswydd iddynt fyned i amddiffyn eu brodyr Goidelig ym Mon rhag canlyniadau echrys gorthrwm Caswallon (fel y disgrifid hwy gan Bera), ac yn eu chwilfrydedd ymunodd y Goidel