Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn yr ymgyrch. Wedi peth ymddiddan ynghylch anffawd bersonol a chyflwr presennol y Goidel troes yr Esgob at sefyllfa pethau, a rhagolygon gwyr Eryri yn eu cyflwr cyfyng ac amgylchynedig gan fynyddoedd. Atebodd y bugail yn debyg i hyn,—"Yr wyf yn cydnabod fy mod wedi fy nghamarwain gan Bera, ac yr wyf yn barod i wneyd yr iawn gofyngedig gan y Tywysog, gyda chyfaddefiad o'm hynfydrwydd a'm dallineb yn syrthio i'r fagl heb roi ystyriaeth mwy pwysig i haeriadau un y gwyddwn nad oedd yn deilwng o un math o ymddiried. Ond gan i mi ymuno yn yr hau, dylwn fedi o'r cynnyrch."

"Na," ebai'r Esgob," yr wyf yn hyderus y bydd i mi gydag ategion dylanwad gwyr teilwng, gael ffafr yn golwg y Tywysog, fel y bydd iddo edrych yn dosturiol ar dy sefyllfa, a rhoddi i ti ollyngdod; oblegid ni ddeillia lles o ddial, yn enwedig ar ôl i dy ymdrech di ac eraill droi allan yn aflwyddiant hollol fel nad oes berygl y syrth y mwyaf anturiaethus o honnoch i'r un amryfusedd drachefn."

"Yr wyf yn sicr," oedd ateb y Goidel, "y bydd fy nghymydogion a'm ceraint yn ddoethach a mwy gwyliadwrus nag erioed. Yr wyf wedi clywed fod