Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hoff iawn; nis gwn am wlad yn meddu cymaint o hynafiaethwyr, ac nis gwn am wlad lle mae'r werin yn talu cymaint o sylw i gromlech a charnedd, i gutiau Gwyddelod a ffyrdd Helen. Ond ychydig o nofelau sydd yn apelio at y teimlad hwn. Y rheswm yw, – manylrwydd yr ymchwiliad angenrheidiol; rhaid cael pob manylion yn gywir, nid yn unig am sefydliad a chymeriad ond am wisg a bwyd a botymau, – pethau y mae eu ffasiwn wedi newid lawer gwaith. Nis gellir rhoi pytatws ar fwrdd Gruffydd ab Cynan, nag oriawr i Owen Gwynedd, na phibellaid o dybaco i Guto'r Glyn, na chrinolin i Werfyl Fychan.

Yn y nofel sy'n dilyn y mae'r awdwr yn cymeryd cyfnod pell a niwlog iawn. Dengys amlinellau'r gwir trwy fanylion dychmygol. Dengys fel y cymysgwyd pobl Mon, ac fel y daeth dwy genedl a dwy grefydd a dwy iaith yn un. Ymdrinia â phroblem bwysicaf hanes bore. Dengys ddwy genedl yn ymgymysgu mewn heddwch, ac nid yn ymladd nes difodi un gan y llall. Ac, yn ddiameu, dyma'r gwir sy'n graddol ennill ei le: er na ddysgir ef eto ond mewn ambell un o'n hysgolion. Wrth ddarllen y nofel hon, ceir gwirionedd hanes ar lun dychymyg.

OWEN EDWARDS.
Llanuwchllyn, Medi 1, 1908.