Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddarganfyddiad agoriad i'r dirgelwch, a chaniatawyd maddeuant a gollyngdod i'r bugail a roes hysbysrwydd tebygol i arwain i lwyddiant yr ymchwiliad. Rhoddwyd pob rhwyddineb a chynorthwy i'r Goidel i groesi y Fenai yn Nhal y Foel, a gorchymynnwyd rhoddi clud iddo i fan lle gallai gael help a'i dygai i Ddolwyddelan. Tra bydd y Goidel ar ei daith i odrau Moel Siabod cymerir mantais yma ar yr oediad ynghwrs yr ystori i ddisgrifio ychydig yn gyffredinol ddigwyddiadau a ddilynasant y tawelwch a roes seibiant i'r llywodraeth i ddwyn oddiamgylch gyfnewidiadau angenrheidiol i gyfarfod y gofynion newydd godasant o'r chwyldroad. Rhanwyd yr Ynys i dri chantref. Cynhwysai cantref ddau gwmwd; a chwmwd a wneid i fyny o nifer o etifeddiaethau. Ni wyddis pa gyfnewidiadau yn y dull o lywodraethu Mon a wnaed yn oes Caswallon. Mae'n debyg mai math o batriarchaeth, neu lywodraeth dylwythol, oedd y ffurf yma cyn myned o'r Ynys dan lywodraeth Tywysog. Cesglir mai cyfeiriad at gyfnewidiad yn y ffurflywodraeth eglwysig o'r dylwythol i'r dywysogol sydd yn hanes gweithrediadau eglwysig a derfynasant yng Nghynadledd