Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Goidelig ar wahân os byddent ymhell oddiwrth yr Eglwys Frythonig: neu os fel arall y byddai y meistr a'r tenantiaid yn fwy cryno yn yr etifeddiaeth, ceid mewn amser y ddau ddosbarth yn ymuno yn yr un adeilad i gynnal un gwasanaeth i Frython a'r llall i'r Goidel, hynny yw, tra buont yn ddwyieithog.

Pa faint bynnag o amser gymerwyd i uno Brython a Goidel ym Mon, ymuno a wnaethant: ond mae hanes yr undeb boreuol hwnnw wedi ei weu gan Frythoniaid oedd dan y drydedd fynachaeth, sef y Rufeinig, neu'r dramoraidd, y rhai trwy ymdrechion y Mynaich a than gyfarwyddyd y Pab, a lyncasant yr Eglwys Frythonig bron yn llwyr trwy osod Esgobyddiaeth Brydeinig yr eglwysi cadeiriol a Phabyddiaeth yr Abattai a'r Mynachdai yn benben mewn ymrysonau crefyddol a derfynodd mewn rhan yn ninystr a dadwaddoliad yr olaf.