Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XVIII. Y GWR HYSBYS

PAN gyrhaeddodd Goidel Moel Siabod i'w lwyn yn Nolwyddelan, wrth yr enw yma yr adnabyddir ef bellach, gwnaeth yr ymchwiliad a allai i ddirgelwch absenoldeb Ceris a Dona. Nid oedd amheuaeth yn neb nad oedd Bera ynghylch rhyw waith dieithr ynghymydogaeth Carreg Alltrem, ond ni feiddiai neb roi eu hunain yn ffordd y Widdan, rhag i'w chilwg beri anffawd i'r cywrain ei dueddiad. Ond nid oedd y Goidel cyfeillgar am roi ei ymdrechion heibio ar frys. Aeth i Gil Machno lle y gallai gael mwy o hysbysrwydd, oherwydd nad oedd Bera mor boblogaidd y ffordd honno. Aeth ymhellach dros y mynydd i gyfeiriad Cernioge lle'r arferai y gwr hysbys, y cyfeiriwyd ato, gyfarfod rhai o gyffelyb gelfyddyd ag yntau. Digwyddodd y gwr hysbys fod yn y lle, ac wedi i'r Goidel ac yntau ddyfod i gyd—ddealltwriaeth gyflawn, cododd y gwr hysbys ei law, ac mewn dull coeg-ddifrifol, gydag un llygad ynghauad, dywedodd, — "Yn