Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei waith ryw ffordd neu gilydd: ond nid oedd ei galon heb ei daro, oblegid dieithr iddo oedd y gorchwyl amheus. Anfonodd negesydd i gwr eithaf Llyn Cawellyn, yr hwn a drosglwyddodd yr hysbysrwydd i frodor o Gaer Seiont; ac ymhen ychydig ddyddiau yr oedd Iestyn ar y ffordd i Greuddyn, lle y gobeithiai weled cyfaill a fasnachai gyda gŵr ger y lle y croesid i wlad y Brython. Pe manylid ar yr holl helynt ni fyddai diwedd i'r syndod. Ni ellir chwaith gyda'r defnyddiau darniog wrth law roi hanes anturiaethau Ceris a Dona, oblegid ni allent ddweyd ond ychydig 'iawn ynghylch digwyddiad dilynol i'r helynt ynglŷn â'r cwn, y noson y collwyd golwg ar Ceris a Dona, a rhwng hynny a'r pryd y cafwyd y ddau ar y ffordd rhwng Llanrhos a Chonwy. Yr oedd y llawenydd rhwng y cyfeillion coll a'r hwn a'u canfu yn nesáu at lan Conwy yn syn a difrifol eu hymddangosiad, yn anhawdd ei ddisgrifio, ac yn tynnu sylw'r holl edrychwyr. Yr oedd y tri wedi eu syfrdanu, ac yn ymddwyn fel rhai anghofus o'u sefyllfa mewn lle dieithr a chymysg breswylwyr. Ymddyrysai Ceris a Dona gyda chwestiynau, a gofynnai Iestyn a hwythau yr un cwestiynau