Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'w gilydd, am fod y ddwyblaid yn ddieithr i'r achos o'u symudiad sydyn o Fon 'i Eryri, ac oddiyno i wlad y Brython. Yr oeddynt mewn syfrdandod parhaus. Ni wyddent ddim ond eu bod yn ymwybodol o bresenoldeb Bera yn awr ac eilwaith: ond pa bryd, neu pa le, ni allent ddweyd. Yr oedd pob peth mor anghysylltiol a dyrys fel na allent gyfrif yr oll ond megis breuddwyd na ellid cael un math o ddeongliad iddo.

Mawr oedd y llawenydd yn y Llwyn. Daeth ymwelwyr o bob congl o'r Ynys i ymholi ac i longyfarch y dychweledigion, ac i geisio hysbysrwydd ynghylch y digwyddiad rhyfedd, na allai neb, hyd yn oed y prif bersonau, roddi un math o oleuni arno i foddlonrwydd. Mae y cwestiynau ynglŷn â hanes Bera heb eu hateb eto i foddlonrwydd.

Mae mesmeriaeth heb ei lawn esbonio. Nid yw dewiniaeth a swyngyfaredd yn ganghennau gwybodaeth wedi eu meistroli. Mae'n bosibl fod rhai gwybodaethau wedi colli yn chwyldroadau crefyddol y byd. Heblaw hyn, nid oedd, ac nid oes, eglurhad ar ganghennau sy'n cael eu gwawdio a'u hanwybyddu oherwydd sefyllfa isel dilynwyr dewiniaeth, swynyddiaeth, a