Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y CAWR HWNNW.

“TYD i chware i'r cwch, Babi.”

“Na, mae mami wedi peri i ni beidio mynd at y dŵr.”

“O hìdia befo, 'neiff hi ddim dwrdìo am dipyn bach, bach wyddost; ac ystalwm y deudodd hi hynny pan oeddwn i'n fychan. Tyd, 'na i dy godi di i mewn.”

Gorchfygwyd Babi, er eì bod braidd yn ameu nad oedd “ystalwm” Gwilym yn ddim pellach na'r diwrnod hwnnw, a gadawodd iddo ei chodi i mewn. Nid oedd hynny yn orchwyl hawdd, am nad oedd Gwilym lawer mwy na hi; ond llwyddodd o'r diwedd, a dringodd i mewn ar eì hol.

Yr oedd y cwch yn siglo ar yr afon oedd yn llifo gyda gwaelod eu gardd, ac un o'r gwaharddedig bethau i'r ddau blentyn oedd myned yn agos i'r dŵr. Fodd bynnag, yn eu chwareu yr oeddynt wedi dod at ymyl yr afon, a meddyliodd Gwilym mor hyfryd fuasai cael ymddifyrru yn y pleser-gwch. Nid oedd neb yn y golwg, yr oedd y forwyn fyddai yn eu gwylio wedi eu gadael i'w chwareu eu hunain. Yn ei galon meddyliai Gwilym fod ei fam yn ei iselhau yn fawr wrth beri iddo gadw oddiwrth yr afon a'r cwch bach a'i swynion. Hogyn mawr fel y fo syrthio i'r afon neu adael i Babi syrthio! Mor wirion oedd ei fam!

“On'd tydi hi'n braf, Babi? Wyt ti ddim yn leicio siglo fel hyn?”

Yr oedd Babi yn pwyso dros ochr y cwch a'i dwylaw bach yn y dŵr, yr oedd wedi colli ei het yn rhywle yn yr ardd, a hongiai eì gwallt