Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi sicrhau y cwch gwag tu ol, tynnodd tua'r lan, yr hwn gyrhaeddodd mewn ychydig o funudau. Neidiodd y Cawr i'r lan ac wedi sicrhau y ddau gwch, estynnodd Gwilym allan yn gyntaf; yna cymerodd Babi ar ei fraich, a chan gydio yn llaw Gwilym cychwynodd i fyny llwybr cul yn y coed. Yr oedd Gwilym mor oer a stiff fel na fedrai bron roddi y naill droed heibio'r llall. Ni ddywedai y Cawr ddim byd. Clywai Gwilym y dylluan, ond yr oedd yn awr fel yn chwerthin ac yn gwaeddi yn ddirmygus,—“Mae'r Cawr wedi dwad—dwad.”

Ar hyd y ffordd ceisiai Gwilym ddyfalu pa beth oedd yn mynd i ddigwydd iddynt. Oedd cael ei fwyta yn fyw yn waeth na llosgi? Yr oedd yn cofio llosgi ei fys unwaith wrth wneyd cyflaith, ac nid oedd y teimlad yn hyfryd. Torrwyd ar ei ddyfaliadau drwy i'r Cawr sefyll yn llonydd. Edrychodd Gwilym o'i amgylch, a gwelai eu bod wedi dod o'r coed a'u bod yn sefyll wrth ddrws ty lled fawr. Nid oedd yn edrych yn debyg iawn i garchar. Yr oedd y drws fel drws rhyw dŷ arall, ac ni welai Gwilym yr un bar haiarn ar y ffenestri. Cyn i'r Cawr allu cnocio, agorwyd y drws gan rywun oddi mewn. Fflachia goleu allan i'r tywyllwch. Aeth y Cawr i mewn, a Gwilym gydag ef. Safai gwraig yn y lobi, a thywynnai y goleu ar ei gwyneb. Penderfynodd Gwilym mai dynes ffeind yr olwg arni oedd gwraig y Cawr, a meddyliodd y buasai yn apelio ati ar ran Babi.

“Pwy sydd gynnoch chi yna, John?” gofynnai i'w gŵr.

“Rhyw ddau blentyn gefais i mewn cwch ar yr afon, ewch a hwy at y tân, rhaid i mi fynd i ymorol am y car, er mwyn i mi fynd a hwy